Ffurf safonol |
Diffiniad Cymraeg |
Diffiniad Saesneg |
Map |
Aber Crafnant |
Hen enw nant yng Ngheredigion yw Crafnant, sy'n ymuno ag afon Fflur yn Henfynachlog, safle wreiddiol abaty Ystrad Fflur. |
Crafnant is the old name of a stream in Ceredigion, which joins with the river Fflur at Henfynachlog, the original site of Strata Florida Abbey. |
Map
|
Aber Gwaith |
Lleoliad anhysbys |
Unknown location |
|
Aber Mulhwch |
Anhysbys. |
Unknown. |
|
Aber Peryddon |
Aber afon Peryddon, a allai fod yn enw arall ar afon Dyfrdwy. |
The mouth of the river Peryddon, which might be another name for the river Dee. |
Map
|
Aber Sôr |
Mae Nant Sôr yn ymuno ag afon Wysg tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerlleon ar Wysg. |
The stream called Sôr meets the river Usk about a mile to the north-east of Caerleon. |
Map
|
Aber Taradr |
Aber nant Taradr ac afon Gwy, i'r de o Henffordd, a ddefnyddir i ddynodi pellafion Cymru |
The confluence of the stream Taradr and the river Wye, south of Hereford, often invoked as the farthest reaches of Wales |
Map
|
Aberdaugleddau |
Aberdaugleddau, Sir Benfro |
Milford Haven, Pembrokeshire |
Map
|
Aberffraw |
Prif lys tywysogion Gwynedd, a leolir yng ngorllewin Môn. |
The chief court of the princes of Gwynedd, located in the west of Anglesey. |
Map
|
Abergwyngregyn |
Llys pwysig tywysogion Gwynedd a maerdref cymwd Arllechwedd Uchaf. |
An important court of the princes of Gwynedd and the maerdref of the commote of Arllechwedd Uchaf. |
Map
|
Aberhonddu/Brecon |
Tref yn Ne Cymru. |
A town in South Wales. |
Map
|
Aragwn |
teyrnas Aragon, yng ngogledd-orllewin Sbaen. |
the kingdom of Aragon, in north-west Spain. ngogledd-orllewin Sbaen |
Map
|
Ardudwy |
Cantref yng ngogledd-orllewin Cymru. |
A cantref in north-west Wales. |
Map
|
Arfderydd |
Arthuret in Cumrbia: lleoliad brwydr y tybir iddo ddigwydd tua 573, lle aeth Myrddin yn wallgof. |
Arthuret in Cumbria: the location of a battle that is presented as having taken place around 573, where Myrddin went mad. |
Map
|
Arras |
Dinas yn Ffrainc a chanol rhanbarth Artois. |
A city in France and the centre of the Artois region. |
Map
|
Brynaich/Bernicia |
Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn yr Hen Ogledd |
Anglo-Saxon kingdom in the Old North |
Map
|
Burgundy |
Rhanbarth Ffrainc. |
A region of France. |
Map
|
Byrri/Burry Pill |
Afon yng Ngŵyr sy’n llifo i’r môr yn aber Llwchwr. |
A river in Gower which flows into the sea in the estuary of the Loughor. |
Map
|
Caer Gaint/Canterbury |
Dinas yng Nghaint yn ne-ddwyrain Lloegr. |
A city in Kent in south-east England. |
Map
|
Caer Lleon |
Caer neu’r ardal honno o ogledd-ddwyrain Cymru (nid Caerleon-ar-Wysg yn ne-ddwyrain Cymru) |
Chester or that area of north-east Wales (not Caerleon, south-east Wales) |
Map
|
Caer/Chester |
Dinas Caer. |
The city of Chester. |
Map
|
Caerfyrddin |
Caerfyrddin |
Carmarthen |
Map
|
Caersallog |
Caersallog, Wiltshire |
Salisbury, Wiltshire |
Map
|
Camlan |
Brwydr derfynol Arthur, lle ymladdodd yn erbyn Medrod, ei nai. |
Arthur's final battle, where he fought against his nephew Medrod. |
|
Carrog |
Afon ac ardal yng Ngheredigion. |
A river and area in Ceredigion. |
Map
|
Castell Golwyn |
Castell Colwyn, hen gwmwd Elfael Uwch Mynydd, Sir Faesyfed |
Colwyn Castle, the old commote of Elfael Uwch Mynydd, Radnorshire |
Map
|
Coed Celyddon |
Coed yn yr Alban y ffodd Myrddin iddo ar ôl brwydr Arfderydd. |
A forest in Scotland to which Myrddin fled after the battle of Arfderydd. |
Map
|
Coed Llwyfain |
Lleoliad brwydr yn yr Hen Ogledd a goffeir mewn cerdd gan taliesin |
Location of a battle in the Old North commemorated in a poem by Taliesin |
Map
|
Conwy |
Afon yng Ngogledd Cymru. |
A river in North Wales. |
Map
|
Cors Fochno |
Cors ger y Borth, i’r gogledd o Aberystwyth, a lleoliad brwydr yn y canu brud |
A marsh near Borth, north of Aberystwyth, and the location of a battle in prophetic poetry |
Map
|
Cyminod |
Yr hen enw ar afon Camlad, y mae un rhan ohoni'n ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr; daeth yn adnabyddus fel y safle lle bydd y Cymry'n ennill buddugoliaeth broffwydedig ar y Saeson. |
The old name for the river Camlad, one stretch of which forms the border between Wales and England; it became known as the site where the Welsh will achieve a prophesied victory over the English. |
Map
|
Cymru/Wales |
Gwlad Cymru. |
The country of Wales. |
Map
|
Dafarru |
Anhysbys. |
Unknown. |
|
Degannwy |
Degannwy, Sir Conwy |
Deganwy, Conwy County |
Map
|
Deheu |
Y de. Efallai ardaloedd i'r de o'r Hen Ogledd yn benodol. |
South. Perhaps south of the Old North specifically. |
Map
|
Deheubarth |
A kingdom in south-west Wales, or the south generally |
Teyrnas yn ne-orllewin Cymru, neu'r de yn gyffredinol |
Map
|
Dulas |
Afon sy’n codi tua dwy filltir i’r gorllewin o Fetws-yn-Rhos, Sir Conwy, ac yn llifo i’r môr yn Llanddulas, ger Abergele. |
A river that springs two miles west of Betws-yn-Rhos, Conwy County, and reaches the sea at Llanddulas, near Abergele |
Map
|
Dulyn/Dublin |
Dinas yn nwyrain Iwerddon. |
A city in the east of Ireland. |
Map
|
Dyfed |
Teyrnas yn Ne Cymru. |
A kingdom in South Wales. |
Map
|
Efyrnwy |
Afon Efyrnwy: afon sy’n codi yn y llyn o’r un enw yw Efyrnwy, cyn llifo ar draws gogledd Powys ac ymuno ag Afon Hafren yn Swydd Amwythig ger Melverley |
River Vyrnwy: a river that springs in Lake Vyrnwy, flows across northern Powys and joins the Severn near Melverley, Shropshire |
Map
|
Erethlyn |
Erethlyn yn Rhos (Pennant Erethlyn) ym mhlwyf Eglwysbach, Sir Conwy |
Erethlyn yn Rhos (Pennant Erethlyn) in the parish of Eglwysbach, Conwy County |
Map
|
Eryddon |
Anhysbys. |
Unknown. |
|
Eryri/Snowdonia |
Cadwyn mynyddoedd yng ngogledd-orllewin Cymru. |
A mountain range in north-west Wales. |
Map
|
Fflur |
Afon yng Ngheredigion. |
A river in Ceredigion. |
Map
|
Ffordd Allt Wyddyl |
Ardal neu leoliad a oedd fwy na thebyg yn ardal Galloway, de-orllewin yr Alban, ac yn ymwneud â phobloedd y Gall Ghàidheil |
Area or location most likely in Galloway, southwestern Scotland, and involving the Gall Ghàidheil |
Map
|
Ffrainc/France |
Gwlad Ffrainc. |
The country of France. |
Map
|
Gogledd |
Rhanbarth a gynhwysai gogledd Lloegr a de'r Alban, lle teyrnasodd y Brythoniaid hyd y seithfed ganrif. |
A region that included northern England and southern Scotland, where the Britons ruled until the seventh century. |
Map
|
Gwynedd |
Prif deyrnas ganoloesol Gogledd Cymru. |
The main medieval kingdom of North Wales. |
Map
|
Gwynfryn |
Y 'Gwynfryn' yn Llundain, lle claddwyd pen Bendigeidfran. |
The 'White Hill' in London, where Bendigeidfran's head was buried. |
|
Gŵyr/Gower |
Tiriogaeth yn Ne Cymru. |
A territory in South Wales. |
Map
|
Hafren/Severn |
Yr afon sy'n codi ym Mhumlumon ac sy'n llifo trwy Gymru a Lloegr i Fôr Hafren. |
The river that rises in Plynlimon and flows through Wales and England to the Bristol Channel. |
Map
|
Ieithon |
Afon sy’n tarddu i’r gogledd i Lanbadarn Fynydd cyn ymuno ag afon Gwy ger Llandrindod yng Nghanolbarth Cymru |
A river that springs north of Llanbadarn Fynydd and joins the river Wye near Llandrindod Wells, mid Wales |
Map
|
Iwerddon |
Iwerddon |
Ireland |
Map
|
Llandudoch/St Dogmaels |
Llandudoch fer Aberteifi, lle roedd mynachlog bwysig yn yr Oesoedd Canol cynnar. |
St Dogmaels near Aberteifi, where there was an important monastery in the early Middle Ages. |
Map
|
Llansawel |
Lle yng ngogledd sir Gaerfyrddin. |
A place in the north of Carmarthenshire. |
Map
|
Lloegr/England |
Gwlad Lloegr. |
The country of England. |
Map
|
Llundain/London |
Dinas Llundain. |
The city of London. |
Map
|
Machafwy |
Afon yn nwyrain Cymru sy'n llifo i'r Gwy. |
A river in east Wales that flows into the Wye. |
Map
|
Machrau |
Mae'r enw hwn wedi goroesi yn enw fferm a elwir yn Faes Machreth, ym mhlwyf Cemais yng Nghyfeiliog. |
This name has survived in the name of a farm called Maes Machreth, in the parish of Cemais in Cyfeiliog. |
Map
|
Manaw/Man |
Ynys Manaw. |
The Isle of Man. |
Map
|
Môn/Anglesey |
Ynys Môn. |
The island of Anglesey. |
Map
|
Mur Castell |
Yr hen enw ar Domen y Mur yn Ardudwy, ger Llyn Trawsfynydd. |
The old name of Tomen y Mur in Ardudwy, near Trawsfynydd Lake. |
Map
|
Mynwy / Monnow |
Afon yn ne-ddwyrain Cymru a ddynodai’r ffin rhwng Cymru a Lloegr (gw. Trefynwy, Sir Fynwy) |
A river in south-east Wales denoting the border with England (cf. Monmouth, Monmouthshire) |
Map
|
Normandi / Normandy |
Dugiaeth yng ngogledd Ffrainc. |
A dukedom in the north of France. |
Map
|
Pen-carn |
Enw nant i'r de-orllewin o Gasnewydd. |
The name of a stream south-west of Newport. |
Map
|
Pengwern |
Enw lle a llys teyrnasaidd yn Swydd Amwythig, efallai yn Amwythig ei hun. |
The name of a place and a royal court in Shropshire, perhaps at Shrewsbury itself. |
|
Powys |
Powys, un o hen deyrnasoedd Cymru sy'n cynnwys yn fras siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog a rhan o sir Ddinbych. |
Powys, one of the old kingdoms of Wales which roughly consists of the counties of Montgomeryshire, Radnorshire and Breconshire, and part of Denbighshire. |
Map
|
Prydain/Britain |
Ynys Prydain. |
The island of Britain. |
Map
|
Prydyn |
Yn wreiddiol 'Gwlad y Pictiaid' neu 'y Pictiaid', ond yn ddiweddarach 'yr Alban' neu'n fwy cyffredinol 'gogledd Prydain'. |
Originally 'Pictland' or 'the Picts', but later 'Scotland' or more generally 'northern Britain'. |
Map
|
Rheged |
Teyrnas yr 'Hen Ogledd'. |
A kingdom of the 'Old North'. |
Map
|
Rhiw Diddfwy |
Unknown location. |
Lleoliad anhysbys. |
Map
|
Rhun |
Anhysbys. |
Unknown. |
|
Rhyd Rheon |
Lle anhysbys; efallai ar Loch Ryan yng ngorllewin Galloway. |
An unknown place; perhaps at Loch Ryan in the west of Galloway. |
|
Rhydychen/Oxford |
Dinas yn Lloegr a lleoliad prifysgol hynaf Prydain. |
The English city, location of the oldest university in Britain. |
Map
|
Sarffryn |
Sarffryn |
Sarffryn |
Map
|
Taf |
Afon yn Ne Cymru: naill ai Taf sy'n llifo i'r mor ym Mae Caerfyrddin, neu 'Taff' sy'n llifo i'r mor ym Mae Caerdydd. |
A river in South Wales: either the Taf that meets the sea in Carmarthen Bay, or the Taff that meets the sea in Cardiff Bay. |
|
Tarddennin |
Afon anhysbys. |
An unknown river. |
|
Tay |
Afon yn yr Alban. |
A river in Scotland. |
Map
|
Teifi |
Afon yng ngorllewin Cymru. |
A river in west Wales. |
Map
|
Trent |
Afon fawr yng ngogledd Lloegr sy'n llifo i'r môr drwy aber Humber. |
The northern English river that enters the sea through the Humber estuary. |
Map
|
Troea/Troy |
Troea, y ddinas hynafol yn Anatolia (Twrci). |
Troy, the ancient city in Anatolia (Turkey) |
Map
|
Tywi |
Afon yn Ne Cymru. |
A river in South Wales. |
Map
|
Winsor/Windsor |
Winsor, castell brenhinol yn Berkshire. |
Windsor, a royal castle in Berkshire. |
Map
|
Yddon |
Afon anhysbys, efallai yn ardal Y Waun, gogledd-ddwyrain Cymru |
Unknown river, perhaps near Chirk, north-east Wales |
Map
|
Ynys Gadarnaf, Yr |
Enw am Brydain; amrywiad ar 'Ynys y Cedyrn'. |
'The Mightiest Island': a name for Britain, a variation upon'Ynys y Cedyrn'. |
Map
|
Ynys y Cedyrn |
Enw a ddefnyddir ym Mhedair Cainc y Mabinogi am Ynys Prydain. |
'The Island of the Mighty': a name for the Island of Britain, used in the Mabinogion. |
Map
|
Ynysoedd |
Ynysoedd Heledd |
The Hebrides |
Map
|